Marathon Casnewydd ABP

ABP Newport Marathon Festival | NEWPORT, WALES

Bydd trydydd rhifyn Marathon, Hanner Marathon a 10K ABP Casnewydd Cymru yn digwydd ar ddydd Sul 28 Ebrill 2024.

Mae’r ras boblogaidd yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gyda un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o’r holl orffenwyr wedi hawlio PB ar lwybr sy’n cynnig tirnodau eiconig, fel Pont Drafnidiaeth y ddinas a golygfeydd godidog Gwastadeddau Gwent – gyda’i bywyd gwyllt arfordirol a’i bentrefi canoloesol hardd.

Cofrestrwch nawr YMA

Ddim am redeg? Beth am wirfoddoli!

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau bod diwrnod y ras yn llwyddiant ysgubol a byddwch yn rhan o dîm mawr o wirfoddolwyr anhygoel o’r enw ‘The Extra-Milers’ a fydd yn helpu i sicrhau bod rhedwyr a gwylwyr fel ei gilydd yn cael profiad gwych.

Os ydych chi’n rhan o gymuned leol neu grŵp ieuenctid a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cofrestrwch nawr YMA

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Tor Hands – volunteers@run4wales.org / 02921 660790

Cofrestru ar gyfer y ras
Pryd bydd y marathon a 10K?
Dydd Sul 28 Ebrill 2024
Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cofrestru ar gyfer y marathon a hanner marathon?
Mae’n rhaid i redwyr marathon fod yn 18 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras. Mae’n rhaid i redwyr marathon fod yn 18 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y hanner marathon.
Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cofrestru ar gyfer y 10K?
Mae’n rhaid i redwyr 10K fod yn 15 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras.
Rwyf wedi cofrestru ar gyfer y ras – sut ydw i’n gwybod os mae fy nghais wedi cael ei derbyn?
Os ydych yn cofrestri ar-lein, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau yn fuan wedyn. Os na dderbynioch gadarnhad, cysylltwch â ni.
Beth dderbyniaf cyn y ras?
Anfonir pecyn ras trwy’r post i bob rhedwr sydd wedi eu dderbyn i’r ras. Bydd y pecyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ras, rhif i’r ras a sglodyn amseru. Bydd yn cyrraedd tua 1-2 wythnos cyn y ras.
Rwyf wedi cofrestru ond yn methu cymryd rhan. A yw’n bosibl i mi gael ad-daliad neu roi fy lle i ffrind?
Mae hawl i chi gael ad-daliad yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl cofrestru (y cyfnod ail-feddwl). Ar ôl yr amser hyn, nid yw’n bosibl i ni roi ad-daliadau na gohirio cofrestriadau nes y ras flwyddyn nesaf. Mae caniatâd i chi drosglwyddo eich lle i ffrind (dyddiad cau i’w gadarnhau).
Nid oes cyfnod ail-feddwl yn ystod y pythefnos olaf cyn i’r cofrestriad gau ym mis Ebrill, mae hyn oherwydd ein bod yn mynd ati yn syth i greu y pecynnau ras er mwyn sicrhau eich bod chi yn eu derbyn yn brydlon cyn y digwyddiad. Felly, os ydych yn cofrestri yn y bythefnos olaf byddwch yn sicr eich bod yn medru cymryd rhan.
Sylwch: Ni ddylech byth newid eich rhif gydag unrhyw redwr arall; gall hyn achosi problemau i’n timau meddygol a chanlyniadau. Os ddaw i sylw trefnwyr y ras bod unrhyw berson wedi newid ei rhif byddant yn cael eu anghymhwyso a rhoddir gwybod i British Athletics.
Gwybodaeth gofrestru a thynnu’n ôl
Pa gategori sy’n berthnasol i mi?
Mae categori Athletwr Cysylltiedig ar gyfer rhai sydd wedi cofrestru gyda chlwb athletau – bydd angen rhoi rhif aelodaeth yn ystod cofrestru. Mae categori Cais Cyffredinol ar gyfer rhai sydd ddim wedi cofrestru gyda chlwb athletau. Mae categori Athletau Cymreig ar gyfer rhai sydd wedi cofrestru gyda chlwb athletau Cymreig. Mae angen i chi rhoi rhif aelodaeth gyfoes pan ydych yn cofrestru, felly cadwch hwn yn agos a gwnewch yn siŵr bod eich aelodaeth yn ddilys.
Sut gallaf newid fy nghofrestriad?
Gallwch newid eich cofrestriad gan fewngofnodi i’ch cyfrif ar https://www.letsdothis.com/edit-booking. Mae’r linc hefyd ar eich e-bost cadarnhau.
Pryd bydd fy mhecyn ras yn cyrraedd?
Anfonir pecynnau ras 1-2 wythnos cyn y digwyddiad.
Pryd byddaf yn derbyn fy nghrys-T ras?
Dosbarthir crysau-T i chi pan orffennwch y ras. Dosbarthir medal hefyd ar wahân. Mae medalau a chrysau-t i orffenwyr yn unig.
Ni allaf yn bellach gymryd rhan yn y ras. A yw yn bosibl i mi dynnu’n ôl o’r ras a derbyn ad-daliad llawn?
Fel esbonnir yn yr amodau a thelerau wedi’u llofnodi yn ystod cofrestriad, gall rhedwr dynnu’n ôl heb gost hyd at bythefnos ar ôl talu ffi’r digwyddiad (heblaw iddynt gofrestru yn ystod y bythefnos cyn i’r cofrestriad gau, mae hyn oherwydd bod y pecynnau yn y broses o gael eu cynhyrchu). Mae’n rhaid i chi roi gwybod eich bod yn tynnu’n ôl trwy e-bostio newportwales@run4wales.org, gan ddatgan yn glir eich bod eisiau tynnu’n ôl. Rhowch y gair CILIAD fel llinell pwnc i’r e-bost. Ni dderbynnir ciliadau dros y ffôn. Ar ôl y cyfnod pythefnos ôl-daliad, nid ad-dalir y ffi gofrestru. Gall rhedwyr dynnu’n ôl unrhyw amser cyn y ras.
Nid yw’n bosibl i mi bellach gymryd rhan yn y ras. A yw yn bosibl i mi ohirio fy nghofrestriad i ddigwyddiad arall?
Nid yw’n bosibl i ohirio cofrestriadau i flwyddyn ddilynol nac i ddigwyddiad arall.
Hoffwn newid o’r Marathon i’r 10K/hanner marathon. A yw hynny’n bosibl?
Ydy. Gallwch drosglwyddo o’r marathon i’r 10K/hanner marathon, am ddim, ar yr amod i chi ei wneud yn swyddogol ar ein platfform cofrestru ar-lein. Mae diwrnod cau hyn dal i’w gadarnhau, ond mi fydd yn agos at ddyddiad y ddigwyddiad. Ni fydd yn bosibl i drosglwyddo ar y dydd.
Hoffwn dynnu’n ôl o’r ras. A yw’n bosibl i mi drosglwyddo fy lle i redwr arall?
Ydy. Gall lle cael ei drosglwyddo i redwr arall hyd at y dyddiad trosglwyddo olaf (i’w gadarnhau) Ar ôl y dyddiad hwn, dechreuir cynhyrchu’r pecynnau ras, felly ni fydd yn bosibl i newid manylion. Bydd ffi drosglwyddo o £5.80 am unrhyw drosglwyddiad i redwr arall. Defnyddir y system cofrestru ar-lein i drosglwyddo gan y rhedwr sy’n tynnu’n ôl a’r rhedwr newydd. Bydd y rhedwr newydd yn talu’r ffi berthnasol trwy’r system cofrestru, ac wedyn bydd yr un sy’n tynnu’n ôl yn derbyn yr ad-daliad yn awtomatig.
Pam mae Let’s Do This wedi codi ffi weinyddol i mi?
Mae Let’s Do This yn gwmni sy’n darparu system cofrestru. Ni ellir ad-dalu ei ffi ac mae ar wahân i ffi gofrestru Run 4 Wales.
Rhedeg y ras
Pa mor bell yw marathon?
Mae marathon yn 26.2 milltir neu 42.2 kilometr.
Pa mor bell yw hanner marathon?
Mae marathon yn 13.1 milltir neu 21.1 kilometr.
Pa mor bell yw 10K?
Mae 10K yn 6.21 milltir neu 10 kilometr.
Pryd bydd y rasys yn dechrau?
Bydd y marathon a hanner marathon yn dechrau am 9yb. Bydd y 10K yn dechrau am 9.45yb.
Pa mor araf y gallaf gwblhau’r ras? A allaf gerdded rhan o’r ras?
Fel eglurwyd yn yr amodau a thelerau cofrestru, mae Marathon Newport ABP yn ras rhedeg ble dylai redwyr  wneud eu gorau glas i gwblhau’r cwrs cyn y terfyn amser 6 awr 30 munud. Er mwyn amddiffyn rhai sy’n cymryd rhan a symudiad y ddinas, ail-agorir y ffyrdd ar ôl yr amser hyn; hefyd, yn ystod y ras, bydd bws i gasglu rhai yn y cefn sy’n methu cadw lan gyda’r cyflymder isaf o 15 munud y filltir. Anogwn bawb i redeg cymaint â phosib er mwyn iddynt gwblhau cyn y terfyn amser. Mae terfyn amser y 10K yn 2 awr.
Ble mae dechrau a gorffen y ras a’r pentref ras?
Mae’r marathon, hanner marathon a’r 10K yn dechrau ar Usk Way yng nghanol Dinas Casnewydd, ar lan yr afon. Mae’r marathon/hanner marathon yn dechrau am 9yb ac mae’r 10K yn dechrau am 9.45yb.
Nid wyf yn byw yng Nghasnewydd, a nid wyf yn nabod y ffordd. A fydd bosibl i mi fynd ar goll?
Ni fydd. Bydd stiwardiaid o gwmpas y holl ffordd.
Beth sy’n digwydd os methaf orffen y ras?
Bydd stondinau meddygol ar hyd y ffordd. Os ydych chi’n rhy flinedig bydd cerbydau i fynd â chi nôl i’r man dechrau/gorffen.
A allaf gymryd rhan yn y ras gyda chadair wthio, ci, bwrdd sgrialu, dyfais ag olwynion, ffyn Llychlynnaidd neu wisg ffansi swmpus?
Ni chaniateir i unrhyw redwr i ddod â chŵn, cadeiriau gwthio babi, bwrdd sgrialu, ffyn Llychlynnaidd, botiau sglefrolwr, beic â dwylo, esgidiau neidio Kangoo, ystudfachau, baglau, beic heb ei awdurdodi neu unrhyw ddyfais ag olwynion ar y cwrs, heblaw cadeiriau olwyn wedi’u gyrru gan law yn y ras tyrfa (mewn ardal wedi’i benodi gan y trefnwyr).  Mae’n rhaid i unrhyw eitem swmpus neu wisg ffansi yr ydych am ei gludo gyda chi gael ei ganiatáu gan gyfarwyddwr y ras os mae’n debyg iddo effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs mewn 6 awr, neu rwystro rhedwyr eraill.
Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cystadlu?
Mae’n rhaid i redwyr fod yn 18 mlynedd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras.
Oes caniatâd i mi redeg mewn gwisg ffansi?
Oes. Rydym yn annog llawer o redwyr gwisg ffansi – maent yn helpu i wneud y ras yn hwyl ar gyfer gwylwyr, teuluoedd a rhedwyr. Rhowch wybod i ni os yw eich gwisg yn swmpus; bydd angen iddo gael ei ganiatáu gan gyfarwyddwr y ras rhag ofn iddo effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs mewn 6 awr 30 munud, neu rwystro rhedwyr eraill.
Oes caniatâd i mi wisgo clustffonau?
Peidiwch ddefnyddio clustffonau pan rydych yn rhedeg er mwyn cyfyngu unrhyw berygl o niwed i’ch hun neu redwyr eraill. Ni fydd y trefnwyr yn gyfrifol dros unrhyw ddigwyddiad a achosir gan ddefnydd clustffonau sy’n rhwystro cyfathrebu pwysig, rhybudd neu wybodaeth oddi wrth y gwasanaethau brys neu stiwardiaid y cwrs.
A fydd lle i gadw fy mag yn ystod y ras?
Bydd. Bydd yn bosibl i bob rhedwr i gadw un bag. Rhannir lleoliad penodol y cyfleusterau cadw bagiau gennych cyn y digwyddiad, a bydd cyfarwyddiadau yn dod yn y post yn eich pecyn ras.
A yw’r cwrs yn addas ar gyfer cadair olwyn?
Croesawn gystadleuwyr â chadeiriau olwyn wedi’u gyrru gan law.
A fydd pacers yn y marathon?
Bydd. Bydd pacers ar gyfer 3:00, 3:15, 3:30, 3:45, 4:00, 4:15 a 4:30 awr.
A fydd pacers yn y hanner marathon?
Bydd. Bydd pacers ar gyfer 1:30, 1:45, 2:00, 2:15, 2:30, 2:45 a 3:00 awr.
A fydd pacers yn y 10K?
Bydd. Bydd pacers ar gyfer 45, 60 a 75 munud.
 
Rhedeg dros elusennau
Oes caniatâd i mi godi arian i unrhyw elusen o fy newis?
Oes. Cysylltwch â’ch elusen ddewisol er mwyn cael ffurflenni noddwyr a chefnogaeth.
Oes rhaid i mi godi arian ar gyfer elusen neu achos da?
Nac oes. Nid yw hynny’n hanfodol – mae lan i chi’n llwyr.
Beth os nid yw fy elusen ar y rhestr?
Mae caniatâd i chi redeg am unrhyw elusen yr ydych yn ei ddewis; does dim angen i’r elusen cael ei restru ar ein tudalen elusennau cysylltiedig er mwyn i chi godi arian.
Ble gallaf ddod o hyd i  ffurflenni nodwyr?
Gallwch ddod o hyd i ffurflenni nodwyr neu festiau rhedeg yn uniongyrchol o’ch elusen ddewisol; cysylltwch â nhw mor fuan â phosib.
 Gwybodaeth gyffredinol
Beth mae fy arian yn talu amdano?
Mae’n talu am ras ardderchog, wedi’i drefnu yn dda, gyda chyfleusterau da ac amrywiaeth o bethau am ddim, gan gynnwys crys T rhedeg a medal goffaol.
Sut i ddarganfod pa ffyrdd bydd ar gau?
Cynhwysir manylion llawn o bob ffordd sydd ar gau yn eich pecyn ras; hefyd maent ar gael ar https://newportwalesmarathon.co.uk/road-closures/
A fydd llun o fy hun yn rhedeg y ras ar gael?
Bydd. Bydd ffotograffwyr o gwmpas y cwrs, ond mae’n amhosibl i ni warantu y bydd llun ohonoch oherwydd y nifer o bobl ar y cwrs. Bydd y lluniau ar gael i’w prynu ar: www.marathon-photos.com
Sut i ddarganfod ffrindiau a theulu ar ôl y ras?
Bydd maes cyfarfod dynodedig.
Ble gallaf ddarganfod rhagor o wybodaeth?
Anogir bob cystadleuydd i ddod nôl i’r wefan hon yn aml oherwydd byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth hyd at y dyddiad ras. Os oes gennych gwestiwn heb ateb ar y dudalen hon, cysylltwch â ni: newportwales@run4wales.org
Sut allaf helpu gyda’r digwyddiad os nid wyf yn rhedeg?
Diolch am eich diddordeb. Bob blwyddyn mae’r ras yn dibynnu ar wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel stiwardiaid ac sy’n dosbarthu diodydd a medalau. Os nad ydych yn rhedeg dyma ffordd fendigedig i gadarnhau llwyddiant i’r digwyddiad, sy’n helpu codi arian mawr i elusennau er mwyn iddynt barhau gyda’u gwaith hanfodol. Os ydych yn fyfyriwr mae hefyd yn brofiad gwych i roi ar eich CV a rhywbeth hwyl i’w wneud gyda ffrindiau. Er mwyn dysgu rhagor, e-bostiwch volunteers@run4wales.org