Gŵyl Marathon Casnewydd ABP

ABP Newport Marathon Festival | NEWPORT, WALES

Mae Gwyl Marathon Casnewydd ABP yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gydag un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn y DU. Yr digwyddiad yn digwydd ar ddydd Sul 13 Ebrill 2025.

Mae’r llwybr yn dilyn tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas ac mae yno olygfeydd godidog o Wastadeddau Gwent – gyda bywyd gwyllt y môr a phentrefi canoloesol hyfryd.

Mae’r ras 10K a hanner marathon hwyliog a chyflym sy’n cyd-fynd â’r marathon yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan heb ymrwymo i’r pellter heriol o 26.2 milltir.

Mae dyddiau gorau Casnewydd yn sicr o’i blaen. Mae’n ddinas llawn hanes ag awyrgylch aml-ddiwylliannol – gyda bragdai artisan a threftadaeth gerddorol gyfoethog. Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ar lan yr afon yng nghanol y ddinas, sydd wedi cael ei hadfywio.


Crynodeb

Bydd Gwyl Marathon Casnewydd yn digwydd ar ddydd Sul 13 Ebrill 2025.

Mae’r ras boblogaidd yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gyda un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o’r holl orffenwyr wedi hawlio PB ar lwybr sy’n cynnig tirnodau eiconig, fel Pont Drafnidiaeth y ddinas a golygfeydd godidog Gwastadeddau Gwent – gyda’i bywyd gwyllt arfordirol a’i bentrefi canoloesol hardd.

Cofrestrwch nawr yma.


Gwirfoddoli

Ddim am redeg? Beth am wirfoddoli!

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau bod diwrnod y ras yn llwyddiant ysgubol a byddwch yn rhan o dîm mawr o wirfoddolwyr anhygoel o’r enw ‘The Extra-Milers’ a fydd yn helpu i sicrhau bod rhedwyr a gwylwyr fel ei gilydd yn cael profiad gwych.

Os ydych chi’n rhan o gymuned leol neu grŵp ieuenctid a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cofrestrwch nawr yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Tor Hands – volunteers@run4wales.org / 02921 660790


2025: Popeth sydd Angen i chi Gwybod

AMSER A LLEOLIAD

Dydd Sul 13 Ebrill, 07:30–15:30. Usk Way, Casnewydd.

Mae Pentref y Rhedwyr a’r llinell cychwyn wedi’i leoli ar bwys Prifysgol De Cymru. Ein Marathon a Hanner Marathon yn dechrau am 09:00 a 10K yn dechrau am 09:45 Bydd ein Rasys Iau yn dechrau am 12:00 gyda’r Ras Plant Bach, bydd Herwyr y Dyfodol yn dechrau am 12:15, ac yna bydd y Ras Hwyl yn dechrau am 12:45.

TEITHIO

Cofiwch bydd miloedd o bobl yn cyrraedd ddechraur ras ar yr un pryd a chi. Gadewch ddigon o amser i gyrraedd, a cynlluniwch eith taith, a’ch trefniadau parcio ymlaen llaw. Ewch i www.newportwalesmarathon.co.uk/parking i gael manylion am opsiynau teithio, gan gynnwys car, tren, beic, bws ac awyren. Rydym yn annog teithio cynaliadwy – meddwl am eich ol-traed carbon ag ymchwilio opsiynnau teithio fel cerdded, beicio neu rhannu ceir, lle’n bossib. Bydd parc beiciau ar gael am ddim i redwyr a chefnogwyr ym Maes Parcio Canolfan Siopa Friars Walk.

PARCIO

Nodwch, na fydd meysydd parcio Stryd Emlyn, Riverfront new Friars Walk ar gael oherwydd y digwyddiad, ond bydd meysydd parcio eraill yng nghanol y ddinas, gan gynnwys Kingsway, ar agor trwy’r dydd. Ewch I www.newport.gov.uk am manylion parcio yn y dinas. Mae gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael ar gyfer y digwyddiad, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol(ONS), gan gynnig mynediad hawdd o gyffordd 28 ar y draffordd. Cofiwch fod y gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael i redwyr sydd wedi cadw a thalu am le parcio yn unig. Bydd mynediad yn cael ei wrthod i redwyr sy’n cyrraedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar droed. Ewch i www.newportwalesmarathon.co.uk/parking i archebu lle. Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Dylai rhedwyr y marathon a’r hanner marathon gyrraedd erbyn 07:30 fan bellaf er mwyn cyrraedd y llinell ddechrau.

EICH RHIF UNIGRYW AR GYFER Y RAS

Maer pecyn hwn yn cynnwys eich bib rhedeg, syn dangos rhif unigryw ar gyfer y ras. Cadwch y bib yn ddiogel, gan ei fod yn cynnyws bathodyn amseru (sy’n galluogi i roi eich amser gorffen i chi). Mae’r lliw bib yn ddangos pa lliw man cychwyn fyddwch yn dechrau mewn ar y dydd. Gwelwch y map ddechrau am fwy o wybodaeth. Atodwch eich bib I’ch crys rhedeg ar y dydd, a cofiwch I lenwi’r gwybodaeth feddygol ar gefn y bib. Mae hwn yn bwysig iawn.

CAMWYR CYFLYMDER

Bydd camwyr cyflymder yn rhedeg gyda baneri sy’n cyfateb i’r amseroedd canlynol: 1:00, 3:15, 3:30, 3:45, 4:00, 4:15, 4:30 (marathon), 1:30, 1:45, 2:00, 2:15, 2:30, 2:45, 3:00 (hanner marathon) a 00:45, 1:00, 1:15 (10K).

MAN CADW BAGIAU

Mae’r man cadw bagiau wedi’i leoli ym maes parcio Canolfan Siopa Rhodfa’r Brodyr, a bydd ar agor rhwng 07:30 a 15:30.

PENTREF Y RHEDWYR

Mae Pentref Marathon Casnewydd Gwyl ABP yn cynnwys llawer o adloniant i’r teulu. Dewch i weld ein noddwyr a’n harddangoswyr cyffrous, cael tyliniad ar ôl y ras, neu ddathlu eich cyflawniadau wrth y bar! Mae yna hefyd lu o opsiynau bwyta a hamdden yng Nghanolfan Siopa Rhodfa’r Brodyr gerllaw.

PEIDIWCH Â CHOLLI!

Mae Côr Mind in Gwent yn grŵp cynhwysol, cyfeillgar a hwyliog sy’n rhoi cyfle i bobl ag anawsterau iechyd meddwl i gysylltu a mynegi eu hunain drwy ganu a cherddoriaeth. Byddan nhw’n darparu adloniant ar hyd y cyrsiau 10K, hanner marathon a marathon. Felly cadwch lygad amdanyn nhw yn y Pentref. Chwaraeon Rhyngwladol!

Bydd Ardal Tawel ABP a Mind / Mind yng Ngwent ym Mhentref y Digwyddiad yn cynnig gofod niwro-gynhwysol ar gyfer rhedwyr, cefnogwyr
a’u teuluoedd a fydd ar gael i’w ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl y ras. Ewch draw os oes angen munud o lonyddwch arnoch chi!

Bydd Ardal Tawel ABP a Mind / Mind yng Ngwent ym Mhentref y Digwyddiad yn cynnig gofod niwro-gynhwysol ar gyfer rhedwyr, cefnogwyr
a’u teuluoedd a fydd ar gael i’w ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl y ras. Ewch draw os oes angen munud o lonyddwch arnoch chi!

RAS YN DECHRAU

Bydd y Marathon/Hanner Marathon (am 9:00am) a’r 10K (am 9:45am) yn dechrau ar Ffordd Wysg, wrth ochr Canolfan Hamdden Casnewydd. Gwnewch yn siwˆ r eich bod yn gyfarwydd a map cychwyn y ras yn y daflen, ac anelwch am y gorlan gywir cyn i’r ras ddechrau. Bydd y Marathon/Hanner Marathon yn gorffen ar Ffordd Wysg wrth ochr Canolfan Hamdden Casnewydd. Bydd y 10K yn gorffen ar Ffordd Wysg wrth ochr Prifysgol de Cymru. Bydd y rasys iau (12:00 Herwyr y Dyfodol, 12:15 Ras Plant Bach a 12:45 Ras Hwyl) yn dechrau ac yn gorffen ar Ffordd Wysg wrth ochr Prifysgol de Cymru.

Cofiwch y bydd rhedwyr y marathon a’r hanner marathon yn dechrau yn yr un corlannau, a fydd yn cael eu trefnu yn ôl yr amser gorffen a ragwelir a’r psellter rasio.

LAWRLWYTHWCH AP RHEDEG DROS GYMRU

Mae Ap Run 4 Wales, sydd ar gael ar gyfer iOS ac Android, yn eich galluogi i dracio rhedwyr ar ddiwrnod y ras, gweld canlyniadau byw, a mwy.

CRYSAU-T & MEDALAU

Bydd medalau a chrysau-t yn cael eu dosbarthu wrth y llinell derfyn. Dylai eich maint ar gyfer y crys-t fod wedi’i ddangos ar eich rhif unigryw ar gyfer y ras. Felly sicrhewch eich bod yn mynd â’r maint cywir.


Hyfforddi a Pharatoi

Cynlluniau Hyfforddi

Newydd ddechrau rhedeg, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau wrth weithio tuag at bellter? Mae ein cynlluniau hyfforddi’n berffaith i ddechreuwyr sy’n chwilio am gyngor ar sut i strwythuro eu hymdrechion wrth weithio tuag at bellter penodol. Cliciwch yma

Ymunwch â Chlwb Strava R4W!

Ein Clybiau swyddogol ar Strava yw’r lle i fynd i gael newyddion, adolygiadau, awgrymiadau a chystadlaethau na chewch chi unrhyw le arall. Gallwch chi ryngweithio â phobl eraill sy’n hyfforddi ar gyfer digwyddiad R4W, gweld tabl arweinwyr clybiau, negeseuon, a mwy.

Erthyglau Hyfforddi

Porwch drwy ein herthyglau hyfforddi isod i gael cyngor am amrywiaeth o bynciau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, lle gallwch chi weld unrhyw erthyglau newydd rydyn ni’n eu cyhoeddi (ac ymuno â’r sgwrs!):

10 ffordd o gymell eich hun wrth hyfforddi ar gyfer marathon
Pam mai 10K yw’r pellter rhedeg perffaith o bosib
Canllaw Hyfforddi yn y Gaeaf
Pethau i’w cofio os ydych chi newydd ddechrau rhedeg
5 ffordd o amrywio eich hyfforddiant
Pam mae’r Nadolig yn gyfnod gwych i ffanatics ffitrwydd
Awgrymiadau hollbwysig pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer ras
26.2 rheswm dros redeg marathon
7 nodwedd rhedwr marathon – pa rai sy’n gweddu i chi?
Cyngor ar hyfforddi yn yr oerfel
Canllaw llawn ar hyfforddi yn yr haf
Ymgyrch #RheswmRhedeg yn ysbrydoli
Torwyr recordiau Hanner Marathon Caerdydd yn ysbrydoli
Awgrymiadau hyfforddi ar gyfer 5K gan Steve Brace, yr athletwr Olympaidd o Gymru

Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth gyffredinol

Pa mor bell yw marathon? Mae marathon yn 26.2 milltir neu 42.2 kilometr.

Pa mor bell yw hanner marathon? Mae marathon yn 13.1 milltir neu 21.1 kilometr.

Pa mor bell yw 10K? Mae 10K yn 6.21 milltir neu 10 kilometr.

Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cofrestru ar gyfer y marathon a hanner marathon? Mae’n rhaid i redwyr marathon fod yn 18 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras. Mae’n rhaid i redwyr hanner marathon fod yn 17 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y hanner marathon.

Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cofrestru ar gyfer y 10K? Mae’n rhaid i redwyr 10K fod yn 15 mlwydd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras.

Pa mor araf y gallaf gwblhau’r ras? A allaf gerdded rhan o’r ras? Fel eglurwyd yn yr amodau a thelerau cofrestru, mae Marathon Newport ABP yn ras rhedeg ble dylai redwyr wneud eu gorau glas i gwblhau’r cwrs cyn y terfyn amser 6 awr. Er mwyn amddiffyn rhai sy’n cymryd rhan a symudiad y ddinas, ail-agorir y ffyrdd ar ôl yr amser hyn; hefyd, yn ystod y ras, bydd bws i gasglu rhai yn y cefn sy’n methu cadw lan gyda’r cyflymder isaf o 15 munud y filltir. Anogwn bawb i redeg cymaint â phosib er mwyn iddynt gwblhau cyn y terfyn amser. Mae terfyn amser y 10K yn 2 awr, mae terfyn amser y hanner marathon yn 4 awr.

Ble mae dechrau a gorffen y ras a’r pentref ras? Mae’r marathon, hanner marathon a’r 10K yn dechrau ar Usk Way yng nghanol Dinas Casnewydd, ar lan yr afon. Mae’r marathon/hanner marathon yn dechrau am 9yb ac mae’r 10K yn dechrau am 9.45yb.

Nid wyf yn byw yng Nghasnewydd, a nid wyf yn nabod y ffordd. A fydd bosibl i mi fynd ar goll? Ni fydd. Bydd stiwardiaid o gwmpas y holl ffordd.

Beth sy’n digwydd os methaf orffen y ras? Bydd stondinau meddygol ar hyd y ffordd. Os ydych chi’n rhy flinedig bydd cerbydau i fynd â chi nôl i’r man dechrau/gorffen.

A allaf gymryd rhan yn y ras gyda chadair wthio, ci, bwrdd sgrialu, dyfais ag olwynion, ffyn Llychlynnaidd neu wisg ffansi swmpus? Ni chaniateir i unrhyw redwr i ddod â chŵn, cadeiriau gwthio babi, bwrdd sgrialu, ffyn Llychlynnaidd, botiau sglefrolwr, beic â dwylo, esgidiau neidio Kangoo, ystudfachau, baglau, beic heb ei awdurdodi neu unrhyw ddyfais ag olwynion ar y cwrs, heblaw cadeiriau olwyn wedi’u gyrru gan law yn y ras tyrfa (mewn ardal wedi’i benodi gan y trefnwyr).  Mae’n rhaid i unrhyw eitem swmpus neu wisg ffansi yr ydych am ei gludo gyda chi gael ei ganiatáu gan gyfarwyddwr y ras os mae’n debyg iddo effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs mewn 6 awr, neu rwystro rhedwyr eraill.

Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cystadlu? Beth yw’r oedran ieuengaf er mwyn cystadlu? Mae’n rhaid i redwyr fod yn 18 mlynedd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras (marathon), 17 mlynedd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras (hanner marathon) a 15 mlynedd oed neu hŷn ar ddiwrnod y ras (10K).

Oes caniatâd i mi redeg mewn gwisg ffansi? Oes. Rydym yn annog llawer o redwyr gwisg ffansi – maent yn helpu i wneud y ras yn hwyl ar gyfer gwylwyr, teuluoedd a rhedwyr. Rhowch wybod i ni os yw eich gwisg yn swmpus; bydd angen iddo gael ei ganiatáu gan gyfarwyddwr y ras rhag ofn iddo effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs neu rwystro rhedwyr eraill.

Oes caniatâd i mi wisgo clustffonau? Peidiwch ddefnyddio clustffonau pan rydych yn rhedeg er mwyn cyfyngu unrhyw berygl o niwed i’ch hun neu redwyr eraill. Ni fydd y trefnwyr yn gyfrifol dros unrhyw ddigwyddiad a achosir gan ddefnydd clustffonau sy’n rhwystro cyfathrebu pwysig, rhybudd neu wybodaeth oddi wrth y gwasanaethau brys neu stiwardiaid y cwrs.

A fydd lle i gadw fy mag yn ystod y ras? Bydd. Bydd yn bosibl i bob rhedwr i gadw un bag. Rhannir lleoliad penodol y cyfleusterau cadw bagiau gennych cyn y digwyddiad, a bydd cyfarwyddiadau yn dod yn y post yn eich pecyn ras.

A yw’r cwrs yn addas ar gyfer cadair olwyn? Croesawn gystadleuwyr â chadeiriau olwyn wedi’u gyrru gan law.

A fydd pacers yn y marathon? Bydd. Bydd pacers ar gyfer 3:00, 3:15, 3:30, 3:45, 4:00, 4:15 a 4:30 awr.

A fydd pacers yn y hanner marathon? Bydd pacers ar gyfer 1:30, 1:45, 2:00, 2:15, 2:30, 2:45 a 3:00 awr.

A fydd pacers yn y 10K? Bydd pacers ar gyfer 45, 60 a 75 munud.

Oes caniatâd i mi godi arian i unrhyw elusen o fy newis? Oes. Cysylltwch â’ch elusen ddewisol er mwyn cael ffurflenni noddwyr a chefnogaeth.

Oes rhaid i mi godi arian ar gyfer elusen neu achos da? Nac oes. Nid yw hynny’n hanfodol – mae lan i chi’n llwyr.

Beth os nid yw fy elusen ar y rhestr? Mae caniatâd i chi redeg am unrhyw elusen yr ydych yn ei ddewis; does dim angen i’r elusen cael ei restru ar ein tudalen elusennau cysylltiedig er mwyn i chi godi arian.

Beth mae fy arian yn talu amdano? Mae’n talu am ras ardderchog, wedi’i drefnu yn dda, gyda chyfleusterau da ac amrywiaeth o bethau am ddim, gan gynnwys crys T rhedeg a medal goffaol.

Sut i ddarganfod pa ffyrdd bydd ar gau? Cynhwysir manylion llawn o bob ffordd sydd ar gau yn eich pecyn ras; hefyd maent ar gael ar https://newportwalesmarathon.co.uk/road-closures/

A fydd llun o fy hun yn rhedeg y ras ar gael? Bydd. Bydd ffotograffwyr o gwmpas y cwrs, ond mae’n amhosibl i ni warantu y bydd llun ohonoch oherwydd y nifer o bobl ar y cwrs. Bydd y lluniau ar gael i’w prynu ar: www.marathon-photos.com

Sut i ddarganfod ffrindiau a theulu ar ôl y ras? Bydd maes cyfarfod dynodedig.

Ble gallaf ddarganfod rhagor o wybodaeth? Anogir bob cystadleuydd i ddod nôl i’r wefan hon yn aml oherwydd byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth hyd at y dyddiad ras. Os oes gennych gwestiwn heb ateb ar y dudalen hon, cysylltwch â ni: newportwales@run4wales.org

Sut allaf helpu gyda’r digwyddiad os nid wyf yn rhedeg? Diolch am eich diddordeb. Bob blwyddyn mae’r ras yn dibynnu ar wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel stiwardiaid ac sy’n dosbarthu diodydd a medalau. Os nad ydych yn rhedeg dyma ffordd fendigedig i gadarnhau llwyddiant i’r digwyddiad, sy’n helpu codi arian mawr i elusennau er mwyn iddynt barhau gyda’u gwaith hanfodol. Os ydych yn fyfyriwr mae hefyd yn brofiad gwych i roi ar eich CV a rhywbeth hwyl i’w wneud gyda ffrindiau. Er mwyn dysgu rhagor, e-bostiwch volunteers@run4wales.org

Cofrestru ar gyfer y ras / Gwybodaeth gofrestru a thynnu’n ôl

Rwyf wedi cofrestru ar gyfer y ras – sut ydw i’n gwybod os mae fy nghais wedi cael ei derbyn? Os ydych yn cofrestri ar-lein, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau yn fuan wedyn. Os na dderbynioch gadarnhad, cysylltwch â ni.

Beth dderbyniaf cyn y ras? Anfonir pecyn ras trwy’r post i bob rhedwr sydd wedi eu dderbyn i’r ras. Bydd y pecyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ras, rhif i’r ras a sglodyn amseru. Bydd yn cyrraedd tua 1-2 wythnos cyn y ras.

Rwyf wedi cofrestru ond yn methu cymryd rhan. A yw’n bosibl i mi gael ad-daliad neu roi fy lle i ffrind? Mae hawl i chi gael ad-daliad yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl cofrestru (y cyfnod ail-feddwl). Ar ôl yr amser hyn, nid yw’n bosibl i ni roi ad-daliadau na gohirio cofrestriadau nes y ras flwyddyn nesaf. Mae caniatâd i chi drosglwyddo eich lle i ffrind. Nid oes cyfnod ail-feddwl yn ystod y pythefnos olaf cyn i’r cofrestriad gau ym, mae hyn oherwydd ein bod yn mynd ati yn syth i greu y pecynnau ras er mwyn sicrhau eich bod chi yn eu derbyn yn brydlon cyn y digwyddiad. Felly, os ydych yn cofrestri yn y bythefnos olaf byddwch yn sicr eich bod yn medru cymryd rhan. Nid oes cyfnod ail-feddwl yn ystod y pythefnos olaf cyn i’r cofrestriad gau, mae hyn oherwydd ein bod yn mynd ati yn syth i greu y pecynnau ras er mwyn sicrhau eich bod chi yn eu derbyn yn brydlon cyn y digwyddiad. Felly, os ydych yn cofrestri yn y bythefnos olaf byddwch yn sicr eich bod yn medru cymryd rhan. Sylwch: Ni ddylech byth newid eich rhif gydag unrhyw redwr arall; gall hyn achosi problemau i’n timau meddygol a chanlyniadau. Os ddaw i sylw trefnwyr y ras bod unrhyw berson wedi newid ei rhif byddant yn cael eu anghymhwyso a rhoddir gwybod i British Athletics.

Pa gategori sy’n berthnasol i mi? Mae categori Athletwr Cysylltiedig ar gyfer rhai sydd wedi cofrestru gyda chlwb athletau – bydd angen rhoi rhif aelodaeth yn ystod cofrestru. Mae categori Cais Cyffredinol ar gyfer rhai sydd ddim wedi cofrestru gyda chlwb athletau.

Sut gallaf newid fy nghofrestriad? Gallwch newid eich cofrestriad gan fewngofnodi i’ch cyfrif ar https://www.letsdothis.com/edit-booking. Mae’r linc hefyd ar eich e-bost cadarnhau.

Pryd bydd fy mhecyn ras yn cyrraedd? Anfonir pecynnau ras 1-2 wythnos cyn y digwyddiad.

Pryd byddaf yn derbyn fy nghrys-T ras? Dosbarthir crysau-T i chi pan orffennwch y ras. Dosbarthir medal hefyd ar wahân. Mae medalau a chrysau-t i orffenwyr yn unig.

Ni allaf yn bellach gymryd rhan yn y ras. A yw yn bosibl i mi dynnu’n ôl o’r ras a derbyn ad-daliad llawn? Fel esbonnir yn yr amodau a thelerau wedi’u llofnodi yn ystod cofrestriad, gall rhedwr dynnu’n ôl heb gost hyd at bythefnos ar ôl talu ffi’r digwyddiad (heblaw iddynt gofrestru yn ystod y bythefnos cyn i’r cofrestriad gau, mae hyn oherwydd bod y pecynnau yn y broses o gael eu cynhyrchu). Mae’n rhaid i chi roi gwybod eich bod yn tynnu’n ôl trwy e-bostio newportwales@run4wales.org, gan ddatgan yn glir eich bod eisiau tynnu’n ôl. Rhowch y gair CILIAD fel llinell pwnc i’r e-bost. Ni dderbynnir ciliadau dros y ffôn. Ar ôl y cyfnod pythefnos ôl-daliad, nid ad-dalir y ffi gofrestru. Gall rhedwyr dynnu’n ôl unrhyw amser cyn y ras.

Nid yw’n bosibl i mi bellach gymryd rhan yn y ras. A yw yn bosibl i mi ohirio fy nghofrestriad i ddigwyddiad arall? Nid yw’n bosibl i ohirio cofrestriadau i flwyddyn ddilynol nac i ddigwyddiad arall.

Hoffwn newid o’r Marathon i’r Hanner Marathon neu 10K. A yw hynny’n bosibl? Ydy. Gallwch drosglwyddo o’r marathon i’r 10K/hanner marathon, am ddim, ar yr amod i chi ei wneud yn swyddogol ar ein platfform cofrestru ar-lein. Mae diwrnod cau hyn dal i’w gadarnhau, ond mi fydd yn agos at ddyddiad y ddigwyddiad. Ni fydd yn bosibl i drosglwyddo ar y dydd.

Hoffwn dynnu’n ôl o’r ras. A yw’n bosibl i mi drosglwyddo fy lle i redwr arall? Ydy. Gall lle cael ei drosglwyddo i redwr arall hyd at y dyddiad trosglwyddo olaf (i’w gadarnhau) Ar ôl y dyddiad hwn, dechreuir cynhyrchu’r pecynnau ras, felly ni fydd yn bosibl i newid manylion. Defnyddir y system cofrestru ar-lein i drosglwyddo gan y rhedwr sy’n tynnu’n ôl a’r rhedwr newydd. Bydd y rhedwr newydd yn talu’r ffi berthnasol trwy’r system cofrestru, ac wedyn bydd yr un sy’n tynnu’n ôl yn derbyn yr ad-daliad yn awtomatig.

Pam mae Let’s Do This wedi codi ffi weinyddol i mi? Mae Let’s Do This yn gwmni sy’n darparu system cofrestru. Ni ellir ad-dalu ei ffi ac mae ar wahân i ffi gofrestru Run 4 Wales.